O ardaloedd agored iawn y llwyfandir i’r mannau mwy clos sydd ar ran isaf y safle, mae Parc Penallta yn llawn o drysorau cudd i chi eu darganfod. Dewch i gerdded drwy’r twnnel helyg, gwylio campau gwas y neidr yn yr awyr uwchben pwll neu chwilio am y Cawr Cwsg, a bydd eich gwobr yn werth yr ymdrech.
Allwch chi ddim gadael Parc Penallta heb weld nodwedd eiconig y parc, sef Swltan y Merlyn Pwll Glo. Mae’n 200 metr o hyd ac yn 15 metr o uchder, ac yn un o gerfluniau pridd ffigurol mwyaf y wlad. Mae golygfeydd gorau’r parc i’w gweld o’r Arsyllfa Uchel lle cewch eich gwobrwyo gan olygfeydd panoramig 360° trawiadol o’r ardaloedd gwledig cyfagos.
Mae gan Barc Penallta filltiroedd o lwybrau y gallwch eu dilyn, ynghyd â thri llwybr cerdded â mynegbyst, sy’n amrywio o ran eu hyd. Mae pob un ohonynt yn dechrau o’r prif faes parcio ac maent i’w gweld ar daflen Parc Penallta ar y wefan.
Gallwch bysgota, beicio a gweld gwaith celf yma hefyd, felly bydd diwrnod allan ym Mharc Penallta yn ddiwrnod i’w gofio!
Beth sydd ar gael yn Parc Penallta