O fewn milltir i Aberdâr fe welwch chi Barc Gwledig Cwm Dâr sy’n cynnig llwybrau cerdded a chyfleoedd i’r teulu gael hwyl ar dros 500 erw o goetiroedd, tir pori a rhostir, sy’n gartref i fywyd gwyllt toreithiog gan gynnwys adar gwyllt ac adar dŵr.
Yn ein canolfan ymwelwyr ryngweithiol, fe welwch chi bopeth y mae arnoch ei angen i wneud yn fawr o’ch ymweliad â’r parc. Mae’r gweithgareddau i’r teulu yn cynnwys cyfleoedd i archwilio nentydd neu fwynhau ‘Teithiau Byd Natur’, ynghyd ag ystod o deithiau cerdded tywysedig, sgyrsiau a digwyddiadau a gynhelir drwy gydol y flwyddyn.
Gall ymwelwyr mwy egnïol chwarae laser tag; rhoi cynnig ar ganŵio a chaiacio; beicio a mentro ar hyd llwybrau beicio mynydd newydd. Ar ôl yr holl weithgarwch hwnnw, gallwch fwynhau byrbryd yn Y Caffi Craig Ddu, neu aros ar y maes gwersylla a charafanio neu yn y gwesty sydd wedi’i adnewyddu yn ddiweddar ac sy’n cynnwys 15 o ystafelloedd gwely.
Mae gan y parc dri llwybr â mynegbyst: Llwybr y Bwllfa, sef llwybr tarmac byr sy’n addas i gadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn; Llwybr Cae Mawr sy’n fwy diarffordd ac sy’n dringo llethrau gwledig; a Llwybr Penrhiwllech sy’n mynd o amgylch Tarren y Bwllfa ac sy’n mynd â chi ar draws tir garw i uchelfannau’r llwyfandir.
Cofiwch ddod â dillad ac esgidiau addas ar gyfer cerdded a’r awyr agored, a mwynhewch eich ymweliad!
Beth sydd ar gael yn Parc Gwledig Cwm Dâr