Mae gan Barc Gwledig Bryngarw dros 100 erw o barcdir ac mae’n llawn ymwelwyr a bywyd gwyllt. Mae yno goetiroedd, gwlyptiroedd, dolydd a gerddi ffurfiol i chi grwydro ynddynt ynghyd ag amrywiaeth eang o weithgareddau difyr a chyfleusterau i’r teulu cyfan eu mwynhau. Bydd rhywbeth gwerth chweil i’w wneud bob amser ym Mryngarw, felly, beth bynnag fo’r tymor.
P’un a ydych yn gobeithio ymuno â’r llwybr beicio ar hyd glannau Afon Garw; cymryd rhan mewn sesiwn archwilio pyllau gyda’n Ceidwaid; gwibio i lawr un o’r sleidiau yn yr ardal chwarae i blant; neu fynd am dro bach drwy’r ddôl blodau gwyllt – mae’n wir bod gan Barc Gwledig Bryngarw rywbeth at ddant pawb.
Ers i Fryngarw agor fel parc gwledig yn 1986, mae wedi parhau i anelu at ragoriaeth. Mae’r ffaith bod y parc wedi ennill statws Gwobr y Faner Werdd ynghyd ag Achrediad Safle Treftadaeth Werdd yn golygu ei fod wedi’i gydnabod yn un o fannau gwyrdd gorau’r DU, sy’n arddangos y safonau uchaf o ran gwarchod ei dreftadaeth amgylcheddol a diwylliannol.
Edrychwn ymlaen at eich gweld cyn bo hir!
Beth sydd ar gael yn Parc Gwledig Bryngarw