Mae Parc Bryn Bach yn cynnwys 340 erw o laswelltir a choetir rhamantus a llyn 36 erw trawiadol, ac mae’n lleoliad delfrydol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau antur i ymwelwyr o bob oed a gallu. Mae croeso i bawb ddod i fwynhau’r awyr agored, ymlacio, cael hwyl neu ddysgu sgiliau newydd cyffrous gan ein tîm o staff arbenigol, naill ar ein safle ni neu yn yr ardaloedd cyfagos.
P’un a ydych yn unigolyn neu’n grŵp, mae yma lwyth o weithgareddau i chi fanteisio arnynt: saethyddiaeth, sgiliau byw yn y gwyllt, archwilio ogofâu, dringo, golff troed, beicio mynydd a sgrialu. Gall y sawl sy’n dwlu ar ddŵr fynd ati i gaiacio a chanŵio, cymryd rhan mewn arforgampau, nofio mewn dŵr agored, padlfyrddio ar eu sefyll a rafftio.
At hynny gellir trefnu diwrnodau meithrin tîm, gwyliau antur egnïol ac anturiaethau difyr yn ystod gwyliau ysgol, dros gyfnod o sawl diwrnod, ac os yw’n well gennych gerdded mae yma gyfleoedd i gerdded ar hyd y bryniau yn ystod y gaeaf a thymhorau eraill a cherdded mewn ceunentydd.
Mae ein canolfan ymwelwyr sydd ar y safle a’n caffi sy’n edrych dros y llyn yn croesawu cŵn, felly os byddwch yn dod â’ch ci er mwyn iddo gael ychydig o hwyl ym Mharc Bryn Bach bydd yn gallu dod i mewn i’r caffi i gael diod.
Brysiwch draw i Barc Bryn Bach!
Beth sydd ar gael yn Parc Bryn Bach