Dyma gyfle i ffoi i fyd natur! O anturiaethau llawn cyffro i nosweithiau tawel oddi cartref, mae Fforest Cwm-carn yn ddigon agos i encilio iddi ond yn teimlo fel pe bai filoedd o filltiroedd i ffwrdd. Mae bryniau’r hen ardal lofaol hon wedi’u trawsnewid yn fforestydd heddychlon â golygfeydd ysblennydd lle mae natur wedi adennill ei gafael ar yr hen orffennol diwydiannol.
Mae Fforest Cwm-carn yn nefoedd i feicwyr mynydd sy’n chwilio am gyffro ac sy’n byw ar adrenalin, ac mae ganddi dri llwybr beicio mynydd (gydag un arall a fydd yn agor yn fuan), digon o leoedd parcio, siop atgyweirio beiciau a gwasanaeth cludo beicwyr i dop y llwybrau. Mae gweithgareddau dŵr a gweithgareddau cyfeiriannu ar gael hefyd i’r sawl sydd am gael hwyl, yn ogystal â maes chwarae antur.
P’un a ydych yn hoff o gerdded pellter hir neu gerdded yn fwy hamddenol, mae popeth i’w gael yn Fforest Cwm-carn, o’r llwybrau serth anodd i fyny Twmbarlwm i’r llwybrau gwastad o amgylch y fforest a llawr y cwm.
Gallwch fwynhau brecwast, byrbrydau a phrydau mwy sylweddol yng Nghaffi’r Gigfran sydd yn y ganolfan ymwelwyr yng Nghwm-carn. Ac mae croeso i’r sawl sydd am aros dros nos wneud hynny yn un o’n podiau glampio neu yn un o’r cabanau sydd wedi cyrraedd yn ddiweddar.
P’un a ydych yn chwilio am gyffro neu’n awyddus i ymlacio, chi biau’r dewis yn Fforest Cwm-carn.
Beth sydd ar gael yn Fforest Cwm-carn