Castell Caerffili yw castell mwyaf Cymru ac ail fwyaf Prydain (Castell Windsor yw’r mwyaf) ac mae’n edrych dros safle trawiadol 30 erw. Mae yno dyrau i’w harchwilio, drysfa i’w datrys, a ffau ddreigiau a mawredd y Neuadd Fawr i’w darganfod; mae Castell Caerffili yn faes chwarae delfrydol i haneswyr ifanc.
Cafodd y gaer ganoloesol hon ei hadeiladu rhwng 1268 ac 1271 yn bennaf gan Gilbert de Clare. Câi ei alw’n Gilbert ‘The Red’ oherwydd ei wallt coch a oedd yn arwydd o’i dras Normanaidd, a chododd y castell hwn er mwyn rheoli Morgannwg ac atal Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, rhag gwireddu ei ddyheadau yn y de.
Ymosododd y Cymry droeon ar Gastell Caerffili, ond mae wedi parhau’n gaer anodd ei chipio ac efallai’n un o’r cadarnleoedd cryfaf a welwyd erioed. Methodd hyd yn oed ymdrechion pengryniaid Oliver Cromwell â thorri drwy ffiniau’r castell, er iddynt adael marc eithaf amlwg arno, sef y tŵr cam enwog sydd ar ogwydd o 3 metr ers 1648.
Dewch atom i weld y cyfan!
Beth sydd ar gael yn Castell Caerffili