Mae Parc Cyfarthfa mewn 160 erw o barcdir lle gellir mwynhau golygfeydd godidog ar draws y cwm ac i gyfeiriad Bannau Brycheiniog, ac mae’n cynnig diwrnod allan gwych i’r teulu cyfan, boed law neu hindda!
Dewch i fwynhau llonyddwch a moethusrwydd Caffi Canolfan Cyfarthfa tra byddwch yn cadw golwg ar eich plant yn chwarae yn y Pad Sblasio a’r Lle Chwarae. Beth am fynd ar y trên bach, chwarae tennis, mwynhau Llwybr Natur Crawshay neu geisio dod o hyd i’r cerfiadau pren hardd sydd ynghanol y coed?
Dewch i ymlacio yn ein gerddi synhwyraidd, mwynhau pysgota ar y llyn a chrwydro ar hyd llwybrau hygyrch y coetiroedd, a mentro ar hyd y llwybrau natur er mwyn gweld yr amrywiaeth o rywogaethau anifeiliaid, adar a phlanhigion sydd yn y parc. Dewch i ymweld â’r ystafelloedd te cywrain i fwynhau byrbrydau blasus a danteithion cartref.
Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa yn gartref i gasgliad rhagorol o arteffactau sy’n cwmpasu 2,000 o flynyddoedd o hanes Merthyr. Gadewch i straeon pobl Merthyr Tudful eich cludo’n ôl i’r adeg pan oedd y dref yn Brifddinas Haearn y Byd. Dyma gyfle i chi ddysgu sut yr helpodd Merthyr Tudful i lunio ein hanes modern wrth i ddylanwad y dref gyrraedd pen draw’r byd. Efallai y byddwch hefyd am ymweld â bwthyn nodweddiadol gweithiwr haearn o’r 19eg ganrif lle cafodd Joseph Parry, cyfansoddwr enwocaf Cymru, ei eni yn 1841.
Mae’r parc hefyd yn lleoliad gwych ar gyfer digwyddiadau a chaiff sioeau ceffylau, arddangosiadau crefft, cyngherddau, digwyddiadau elusennol a rasys hwyl eu cynnal yno’n aml.
Dyma gyfle na ddylech ei golli – cofiwch alw heibio’n fuan!
Beth sydd ar gael yn Castell a Pharc Cyfarthfa