Mae’r ganolfan ymwelwyr, sydd wedi’i lleoli yng nghalon Parc Coedwig Afan ym Mhort Talbot, yn gartref i Ystafell De Cedar’s, Amgueddfa Glowyr De Cymru a Sied Feiciau Cwm Afan. Mae hwn yn lle gwych i ddechrau ar eich antur. Mae yma gyfleusterau parcio (codir tâl am barcio) a thai bach. Mae Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan wedi’i hamgylchynu gan lwybrau beicio mynydd sy’n amrywio o Lwybr y Rookie, sy’n addas i deuluoedd, i lwybrau sydd wedi’u graddio’n goch a du i’r beicwyr mynydd mwy medrus yn ein plith. Os ydych yn chwilio am antur ar ddwy droed, dilynwch y llwybrau cerdded sydd â chyfeirbwyntiau a fydd yn eich arwain o’r ganolfan ymwelwyr tuag y coedwigoedd gerllaw.
Cofiwch y gallai amseroedd agor y caffi, yr amgueddfa a’r sied feiciau fod yn wahanol:
Ystafell De Cedar’s (ac i archebu lle yn y maes gwersylla)
https://www.cedarstearoom.co.uk/
cedarstearoom@hotmail.com
Ffôn: 01639 852420
Amgueddfa Glowyr De Cymru
https://www.south-wales-miners-museum.co.uk/
info@south-wales-miners-museum.co.uk
Ffôn: 01639 851833
Sied Feiciau Cwm Afan
http://www.afanvalleybikeshed.co.uk/
enquiries@afanvalleybikeshed.co.uk
Ffôn: 01639 851406
Mae cynlluniau cyffrous ar droed i wneud rhagor o welliannau i’r cyfleusterau. Y bwriad yw creu ardal chwarae antur i blant, gwella’r tai bach a’r cawodydd a chreu mannau parcio i gerbydau gwersylla a fydd â chysylltiad trydanol. Y bwriad hefyd yw cael man gwybodaeth digidol newydd sbon yn y ganolfan ymwelwyr er mwyn i ymwelwyr ddod o hyd i’w ffordd yn y cwm hyfryd hwn.
Beth sydd ar gael yn Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan