Mae Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, sy’n borth i Gymoedd De Cymru ac sydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn rhannol, yn deyrnged i lowyr a gweithwyr haearn y gorffennol.
Mae’r Ganolfan mewn ardal 33 chilomedr sgwâr ac mae’r atyniadau, y digwyddiadau, y gweithgareddau a’r dirwedd yn gyrchfan berffaith ar gyfer diwrnod allan. Mae’r prif atyniadau megis Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Gwaith Haearn Blaenafon, Canolfan Treftadaeth y Byd a Rheilffordd Dreftadaeth Blaenafon i gyd o fewn ychydig funudau’n unig i’w gilydd, p’un a ydych yn gyrru neu’n cerdded. Mewn gwirionedd, mae cymaint o atyniadau gwych i’w cael fel y bydd angen i chi dreulio mwy na diwrnod yma i fwynhau popeth – felly cynlluniwch benwythnos os gallwch chi! Mae manylion am lety yn yr ardal i’w cael ar https://www.visitblaenavon.co.uk/cy/.
Oherwydd bod Blaenafon yn brif ganolfan y byd o safbwynt cynhyrchu haearn a glo yn y 19eg ganrif gallwch weld olion y diwydiant haearn a glo, sy’n cynnwys pwll glo, ffwrneisi, chwareli, systemau rheilffyrdd, bythynnod gweithwyr haearn, eglwysi, capeli, ysgol a neuadd i weithwyr. Mae’r cyfan mewn tirwedd sy’n boblogaidd ymhlith cerddwyr, beicwyr, a beicwyr mynydd.
Mwynhewch eich ymweliad – pryd bynnag y byddwch yma!
Beth sydd ar gael yn Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon