Datganiad Preifatrwydd
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cipio nac yn storio unrhyw wybodaeth bersonol am unigolion sy’n pori’r wefan hon, heblaw lle rydych yn dewis yn wirfoddol i roi eich manylion personol i ni drwy e-bost neu ffurflen ar-lein.
Pan fyddwch yn dewis llenwi unrhyw un o’n ffurflenni ar-lein, defnyddir y wybodaeth bersonol a roddwch i ni, gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr neu ddarparwr gwasanaeth trydydd parti sydd wedi’i gontractio i ni, er mwyn darparu’r gwasanaeth(au) y gofynnoch amdanynt.
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymdrechu i ddiogelu eich gwybodaeth a bydd unrhyw ddatgeliadau o’r wybodaeth honno yn unol â’r GDPR a Deddf Diogelu Data 2018. Bydd yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaeth trydydd parti sydd dan gontract i’r Cyngor gydymffurfio â’r un safonau.
Cewch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn casglu ac yn storio dim ond y wybodaeth ganlynol a gydnabyddir yn awtomatig: y dyddiad a’r amser, yr IP cychwynnol, y math o borwr a’r system weithredu a ddefnyddir, URL y dudalen gyfeirio, y gwrthrych y gofynnwyd amdano, a statws cwblhau’r cais. Mae’r rhai sy’n ymweld â’n gwefan yn ddienw gan nad oes unrhyw ddata a gesglir yn gysylltiedig ag unrhyw wybodaeth bersonol. Mae’r wybodaeth ond yn caniatáu i ni ganfod problemau gyda’n gweinydd, ac asesu poblogrwydd y tudalennau ar y wefan, er mwyn i ni allu gwella ein safle yn barhaus.
Am ba hyd yr ydym yn cadw gwybodaeth bersonol
Byddwn yn cadw’ch gwybodaeth bersonol ar ein systemau cyhyd ag y bod angen y wybodaeth ar gyfer y gwasanaeth yr ydych wedi gofyn amdano, ac yn ei dynnu i ffwrdd pan fydd y diben hwnnw wedi’i fodloni. Yn achos gwasanaeth gwybodaeth ar-lein, caiff eich gwybodaeth bersonol ei storio hyd nes nad ydych yn dymuno parhau i dderbyn y gwasanaeth.